Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (163)v5 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
Cwestiwn Brys Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am ei adolygiad o gyllid Addysg Uwch? |
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3 Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cyflwyno'r
Bil Tai (Cymru) (60 munud) |
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarthau (30
munud) |
5 Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013 (15 munud)
NDM5355 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2013.
Dogfennau Ategol Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
|
6 Dadl ar Gyllideb Ddrafft 2014-15 (120 munud) NDM5356 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 8 Hydref 2013. Mae Cynigion Cyllideb Ddrafft 2014-15 ar gael ar y ddolen ganlynol:
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1. Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol a wnaethpwyd yn y gyllideb ddrafft i’r gwasanaeth iechyd yn sgîl y pwysau a roddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2014-15 fel ei bod: a) yn diogelu’r gyllideb iechyd mewn termau real ac yn mynd i’r afael â’r pwysau ariannol eithriadol sy’n wynebu byrddau iechyd lleol yng Nghymru; b) yn bodloni anghenion busnesau ledled Cymru, er budd economi Cymru; c) yn mynd i’r afael â’r heriau cyllido sy’n wynebu colegau Addysg Bellach, er mwyn iddynt allu darparu amrywiaeth lawn o sgiliau a chyrsiau galwedigaethol i ddysgwyr yng Nghymru.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r cytundeb pwysig a gyflawnwyd gan Blaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i sicrhau: a) Cronfa Gofal Canolraddol i leihau’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac i ddarparu gofal yn nes at adref; b) bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddyblu; c) tri robot Da Vinci modern a fydd yn darparu gweithdrefnau llawfeddygol llai mewnwthiol; d) cronfa technoleg iechyd a thelefeddygaeth i roi Cymru ar flaen y gad ym maes technoleg feddygol; e) bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei diogelu; ac Yn nodi ymhellach yr effaith gadarnhaol y bydd buddsoddiadau o’r fath yn ei chael ar gymunedau ledled y wlad a’r gwelliannau mewn gwasanaethau cymunedol a fydd yn dilyn hynny. Cefnogwyd gan:
Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r gweithredu ar y cyd rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru, a sicrhaodd y canlynol yn y Gyllideb Ddrafft: a) £35 miliwn ychwanegol i ddyblu'r cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol; b) Cronfa Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn i gefnogi byw’n annibynnol ac i leihau’r pwysau ar y system gofal mewn argyfwng; c) buddsoddiad ychwanegol o £9.5 miliwn yn y Gronfa Technoleg Iechyd er mwyn cynyddu buddsoddiad mewn telefeddygaeth; a d) Pecyn Cefnogi Pobl gwerth £5.5 miliwn i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd. Cefnogwyd gan: Elin Jones (Ceredigion)
Dogfen Ategol
Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 Papur Ymchwil: Cynigion ynghylch y Gyllideb Ddrafft 2014-15 (Hydref 2013)- Y Gwasanaeth Ymchwil
|
7 Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13 (60 munud) NDM5357 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13. Gellir gweld Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2012-13 drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.childcomwales.org.uk/uploads/publications/400.pdf
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
cydnabod y pryder a godwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch
difrifoldeb trefniadau diogelu annigonol. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth ganfyddiad yn yr adroddiad bod lleisiau plant a phobl ifanc yn aml yn cael eu hanwybyddu’n llwyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth gadarnach o ran mynediad at eiriolaeth broffesiynol annibynnol.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â
chyflwyno Bil Plant a Phobl Ifanc (Cymru) er ei hymrwymiad yn
natganiad deddfwriaethol 2011, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
wyrdroi’r penderfyniad hwn a chyflwyno deddfwriaeth i gryfhau
hawliau plant a phobl ifanc ac i ddiwygio’r sail statudol
dros swyddfa’r Comisiynydd Plant. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ymateb i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru cyn ddadl flynyddol arno. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 20 Tachwedd 2013